Gwirfoddoli gyda Newid Cam
Mae gwirfoddolwyr Newid Cam yn chwarae rhan allweddol yn ein hymdrechion i ymgysylltu â chyn-filwyr a’u teuluoedd a’u cefnogi, a hefyd ein helpu i gynyddu dealltwriaeth o anghenion cyn-filwyr a’u teuluoedd yn y gymuned ehangach.
Mae gennym nifer cynyddol o wirfoddolwyr ymroddedig, sy’n rhoi eu hamser personol gwerthfawr i gefnogi gwaith Newid Cam.
Manteision Gwirfoddoli
Mae bod yn wirfoddolwr yn cynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd a magu hyder drwy weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr eraill, staff cyflogedig a’r cyn-filwyr a theuluoedd sy’n defnyddio Newid Cam.
- Datblygiad personol
- Ennill sgiliau a phrofiad newydd
- Gwella rhagolygon cyflogaeth
- Defnyddio sgiliau presennol
- Cwrdd â phobl newydd
- Cynyddu hyder
- Hyfforddiant mynediad
- Gwell lles emosiynol
Mwy o fanylion
Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni
info@adferiad.org│ 0300 777 2259