Mentora iechyd meddwl

Mae Newid Cam yn gweithio gyda Gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru i gynnig cymorth mentora cymheiriaid i gyn-filwyr sydd angen therapi sy’n gysylltiedig â phrofiadau yn ystod eu hamser mewn gwasanaeth, neu wrth addasu i fywyd sifil.

Gyda chymorth cyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae’r prosiect cydgysylltiedig yn helpu cyn-filwyr o Ogledd Cymru i baratoi ar gyfer eu triniaeth, yn eu cefnogi drwy’r driniaeth honno, ac yn darparu arweiniad ymarferol wedi’i deilwra wedyn.

 

Cydweithio arloesol

Mae’r cydweithio arloesol yn gweld ein tîm o fentoriaid cymheiriaid yn gweithio’n uniongyrchol ochr yn ochr â therapyddion arbenigol i gefnogi cyn-bersonél y lluoedd sydd angen triniaeth wedi’i theilwra i’w cefndir milwrol.

 

“Mae’r cydweithio hwn yn golygu y bydd y therapi seicolegol arbenigol y mae GIG Cymru Cyn-filwyr yn ei ddarparu nawr yn cael ei ategu â chymorth personol unigol i helpu i sicrhau bod manteision y therapi hwn yn cael eu cynnal dros y tymor hwy.”

Dr Peter Higson - Cyn Gadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

argyfwng
Vetsnhswales
logo bcuhb